Cychwynnodd y cyfan gyda chwestiwn.
Roedd Rheolwr Tîm angen cyflwyno Asesiad Risg i’r Llys. Ar y pryd, y Fframwaith Asesu oedd yn cael ei ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer gwneud hynny. Nid oedd y Fframwaith yn cynnwys y term risg nac asesiad risg.
Pan gyflwynodd y Rheolwr Tîm Asesiad Craidd i’r Llys, cafodd wybod nad oedd yn cyd-fynd â’u disgwyliadau nhw o asesiad risg. Ond wedi dweud hynny, doedd y Llysoedd na’r Cyfreithwyr ddim yn gallu dweud beth yn union roedden nhw’n ei ddisgwyl o asesiad o’r fath.
Felly gofynnwyd y cwestiwn hollbwysig – ‘sut mae cynnal asesiad risg ar gyfer y Llys?’
Ar ôl blynyddoedd o gydweithio a chyfuno eu cyfoeth o sgiliau a gwybodaeth, datblygwyd y fframwaith gan Dafydd Paul o Wasanaethau Plant Cyngor Gwynedd a Bruce Thornton o JBT Training and Development.
Mae Dafydd yn Weithiwr Cymdeithasol Cofrestredig gyda dros 30 mlynedd o brofiad ym maes gofal cymdeithasol. Mae’n gweithio fel Uwch Reolwr Diogelu ac Ansawdd yng Nghyngor Gwynedd. Mae Bruce Thornton yn Weithiwr Cymdeithasol Cofrestredig gyda dros 40 mlynedd o brofiad ym maes gofal cymdeithasol. Mae Bruce yn gweithio fel ymgynghorydd a hyfforddwr annibynnol ers blynyddoedd lawer. Aeth y ddau ohonynt ati i ddiffinio ystyr risg yng nghyd-destun Gwasanaethau Plant, a gweld sut byddai modd datblygu asesiadau risg. Roedd y ffocws hwn yn ei hanfod yn ymwneud â throthwy cyfreithiol y tebygolrwydd o niwed arwyddocaol.
Mae’r fframwaith yn cael ei ddefnyddio mewn llawer o Awdurdodau yng Nghymru ac yn Lloegr. Yn ogystal ag asesu risg o niwed arwyddocaol, mae’n cynnwys amrywiaeth o declynnau asesu arbenigol ac asesiadau risg y gellir eu defnyddio mewn sefyllfaoedd cyn i blentyn gael ei eni. Dros y blynyddoedd, mae’r Model Risg wedi cael ei ddatblygu i’w ddefnyddio mewn sectorau newydd, gan gynnwys ym maes cyfraith teulu a gwasanaethau ymyrraeth gynnar.
Heddiw, mae’r Model Risg yn cael ei ystyried yn gyfraniad pwysig at ymarfer gwaith cymdeithasol ym maes amddiffyn plant, gan gynorthwyo ymarferwyr i wneud penderfyniadau da a chyson yn eu gwaith bob dydd yn amddiffyn plant.
Mae’r Model Risg yn dal i gael ei ddatblygu. Wrth iddo gael ei gyflwyno mewn mwy a mwy o Awdurdodau, mae Bruce yn addasu ac yn ymestyn y teclynnau a’r adnoddau hyfforddi. Mae Dafydd wedi plethu’r Model Risg yn rhan o fodel arloesol newydd sydd wedi cael ei ddatblygu gan Wasanaethau Plant Gwynedd – Amddiffyn Plant yn Effeithiol.