Gellir disgrifio’r ‘risg o niwed arwyddocaol’ fel y trothwy cyfreithiol sy'n dweud wrth y Gwasanaethau Plant pryd mae angen iddynt ymyrryd. Mae gwneud penderfyniadau da am risg yn bwysig er mwyn diogelu hawl teuluoedd i fywyd preifat a sicrhau bod y dyletswyddau i amddiffyn plant yn cael eu cyflawni.
Mae’r Model Risg yn cynnig fframwaith ar gyfer rheoli penderfyniadau am y risg o niwed arwyddocaol, ac mae’r fframwaith hwnnw’n rhoi system rheoli risg i ymarferwyr a sefydliadau.
Mae fframwaith y Model Risg yn cynnwys pedair elfen allweddol, sef:
I gael rhagor o wybodaeth am y pedair elfen, cliciwch y ddolen isod
- Cam 1 - sgrinio risg pob achos yn rheolaidd i gadw golwg am bryderon ynglŷn â niwed arwyddocaol
- Cam 2 - asesiad risg mwy cynhwysfawr o risg o niwed arwyddocaol
- Asesiad risg cyn geni - fersiwn o Cam 2 ydy’r asesiad hwn, sy’n cael ei ddefnyddio wrth gynnal asesiadau cyn geni
- Teclynnau eraill – teclynnau asesu arbenigol sy’n canolbwyntio ar feysydd penodol sy'n destun pryder.