collage

Asesu Risg (Cam 2)

Asesu risg (Cam 2) - asesiad risg mwy cynhwysfawr o risg o niwed arwyddocaol

  • Mae Cam 2 wedi'i strwythuro i gasglu gwybodaeth o 8 maes a dadansoddi’r wybodaeth honno.
  • Daw’r asesiad risg i ben gyda chrynodeb ‘Rheswm dros y penderfyniad’.  Mae modd cynnwys y crynodeb hwn mewn nifer o brosesau, gan gynnwys Adroddiad y gweithiwr cymdeithasol i Gynhadledd Achos Gychwynnol.

Yr Asesiad Risg ydy ail gam y Model Risg, a chyfeirir ato’n aml fel Risg 2.  Mae hwn yn asesiad cynhwysfawr o sawl maes, a phan fydd popeth wedi cael ei ddadansoddi, bydd gennych sylfaen ar gyfer asesiad risg.   

Mae’r meysydd dan sylw’n cynnwys gwerthuso effaith gallu rhieni i ddiwallu anghenion plentyn yn erbyn y graddau mae anghenion y plentyn yn cael eu diwallu.  Bydd unrhyw niwed sy'n dod i’r amlwg yn cael ei gategoreiddio gan ddefnyddio’r diffiniad yn Neddf Plant 1989, cyn ystyried pa mor debygol ydy hi y bydd effeithiau niweidiol yn parhau.  Daw’r asesiad risg i ben gyda chrynodeb ‘Rheswm dros y penderfyniad’.   

Mae’r Asesiad Risg (Cam 2) wedi cael ei blethu'n rhan o sawl proses amddiffyn plant.  Er enghraifft, gellir ei ddefnyddio cyn cwblhau’r Adroddiad Gwaith Cymdeithasol i Gynhadledd Achos Gychwynnol.  Mae’r asesiad risg yn dod yn rhan o adroddiad gwaith cymdeithasol i Gynhadledd, gan orffen gyda’r adran ddadansoddi. 

Mae’r penderfyniadau a wneir yn ddibynnol ar y wybodaeth sydd ar gael ar y pryd.  Weithiau, mae’n rhaid gwneud penderfyniad hyd yn oed os nad ydym yn gwybod popeth am amgylchiadau’r teulu.  Mae Risg 2 yn annog y gweithiwr i ystyried a oes ganddo ddigon o wybodaeth i ddod i gasgliadau.  Mae’n ddigon posibl y bydd angen casglu gwybodaeth reolaidd.  Mewn sefyllfaoedd eraill, mae’r ansicrwydd yn ymwneud â diffyg eglurder ynglŷn â phryder arbenigol iawn.  Er enghraifft, gallu’r rhiant i newid, neu mewn achosion o esgeulustod, barn wrthrychol am gyflwr y cartref ac effaith hyn ar y plentyn.   

Mae’r Atodiad Niwed Arwyddocaol yn declyn ychwanegol y gellir ei ddefnyddio wrth gwblhau Risg 2. Cafodd ei ddatblygu i roi cymorth ychwanegol i weithwyr gwblhau Adran 7 o’r Asesiad Risg (“Ystyried a ydy’r niwed hwn yn arwyddocaol”).  Mae’n rhoi arweiniad ychwanegol ar ddadansoddi niwed arwyddocaol, gan roi pwyslais ar esbonio’r ddwy elfen o ba mor arwyddocaol ydy’r niwed, ac ystyr hyn.  Mae’n cynnwys coeden benderfyniadau i helpu gweithwyr.   

Cafodd ei gynllunio i helpu staff i gwblhau Risg 2, ond gellir ei ddefnyddio ar wahân hefyd i edrych ar ba mor arwyddocaol ydy niwed mewn prosesau eraill lle nad ydy Risg 2 wedi cael ei gychwyn eto.  Mae rhai Awdurdodau wedi ei addasu i weithio fel teclyn ar ei ben ei hun i sgrinio niwed arwyddocaol mewn Trafodaethau Strategaeth neu Ymholiadau Adran 47.  

Os ydy’r Asesiad Risg yn cynnwys meysydd eraill penodol iawn sy’n destun pryder, mae teclynnau eraill ar gael.  Er enghraifft, gallu rhiant i newid, neu mewn achosion o esgeulustod, cyflwr gwrthrychol y cartref ac effaith hyn ar y plentyn.   Mae pob math o declynnau arbenigol eraill wedi cael eu rhestru o amrywiol ffynonellau er mwyn darparu’r ffocws hwn ar feysydd arbenigol.  Mewn rhai enghreifftiau, mae teclynnau newydd wedi cael eu datblygu neu mae teclynnau sydd ar gael yn barod wedi cael eu haddasu neu'u diweddaru at ddefnydd ymarferol.  Gweler Teclynnau Asesu Arbenigol am ragor o wybodaeth.