collage

Newyddion

CAFCASS Cymru - 29ain o Fai 2013

Cafodd Bruce Thornton, JBT Training and  Development, ei gomisiynu gan CAFCASS Cymru i addasu a datblygu’r Model Risg ar eu cyfer.  Roedd hyn yn cynnwys adolygu’r fframweithiau cofnodi ac asesu achosion yr oedd CAFCASS Cymru yn eu defnyddio, ac argymell ffyrdd o’u datblygu ar gyfer y gwasanaeth,  ynghyd â gwybodaeth am sut gallai teclynnau arbenigol gefnogi hyn.  Addaswyd y Model Risg a'r Teclynnau Asesu at ddefnydd CAFCASS Cymru.  Yn ogystal â hyn, datblygwyd nifer o declynnau newydd ar gyfer CAFCASS Cymru ym maes asesu cyswllt ac ymlyniad.&nb

Cynhadledd ADSS Cymru – ‘Gwella cysondeb ac ansawdd penderfyniadau – ymateb i her Munro’ - 25ain o Fedi 2014

Gwahoddwyd Dafydd Paul o Wasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd i roi cyflwyniad i gynhadledd genedlaethol y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Penaethiaid Gwasanaethau Plant yng Nghymru.  Ei thema oedd adroddiad terfynol Munro a’r cyfeiriadau at ‘egwyddorion risg’, ynghyd â her Munro ynglŷn â sut dylid dod i farn ynghylch gweithwyr cymdeithasol.  Yn ôl Munro, dylai gweithwyr cymdeithasol gael eu barnu nid yn ôl canlyniadau eu penderfyniadau ond yn ôl ansawdd a chysondeb y penderfyniadau.  Yr her yn sgil hyn i Awdurdo

Gwobrau BASW Cymru – ‘Arloesi mewn gwaith cymdeithasol’ - 1af o Hydref 2013

Yng Ngwobrau Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW) 2013, cafodd Dafydd Paul o Gyngor Gwynedd ei gydnabod mewn seremoni  am ei waith arloesol ym maes amddiffyn plant, a hynny ar lefel Cymru gyfan.  Cafodd gydnabyddiaeth am ei waith yn datblygu’r Model Risg, a derbyniodd y Wobr ‘Gwaith Cymdeithasol Arloesol’ yng Ngwobrau Gwaith Cymdeithasol Cymru BASW 2013.

Cynhadledd Genedlaethol yr NSPCC – ‘Gorwelion Newydd ym maes Diogelu Plant’ - 24ain o Fai 2012

Gwahoddwyd Dafydd Paul o Wasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd i Manceinion i roi cyflwyniad yng nghynhadledd genedlaethol yr NSPCC ar amddiffyn plant.  Teitl y cyflwyniad oedd ‘Y Model Risg: System arloesol ac ymarferol i asesu’r risg o niwed arwyddocaol.’  Roedd thema’r cyflwyniad yn adleisio’r cyflwyniad diweddar ar gyfer BASPCAN ac yn ymdrin â’r diffyg cyswllt rhwng gofynion statudol a’r realiti o ymarfer yn y rheng flaen ym maes amddiffyn plant.  Cyflwynwyd y Model Risg fel dull pontio ymarferol.  Ymunodd Bruce Thornton o JBT Trai

Cymdeithas Prydain ar gyfer Astudio ac Atal Cam-drin ac Esgeuluso Plant (BASPCAN) – ‘Cadw Plant yn Ddiogel mewn Byd Ansicr: Dysgu o Dystiolaeth ac Ymarfer’ - 16eg o Ebrill 2012

Gwahoddwyd Dafydd Paul o Wasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd i ddeuddegfed Cyngres Genedlaethol BASPCAN ym Melfast, Gogledd Iwerddon.  Roedd y Gyngres yn dwyn ynghyd ymchwil ac ymarfer mewn amddiffyn plant cyfoes, ac yn cynnwys cyfranwyr o'r Deyrnas Unedig ac o Iwerddon.  Roedd cyflwyniad Dafydd yn ymwneud â gwaith Gwynedd ar y Model Risg.  Wrth gyflwyno’r Model, tynnodd Dafydd sylw at y diffyg cysylltiad rhwng y disgwyliadau ar ymarferwyr a’r hyn y gellir ei gyflawni mewn gwirionedd mewn ymarfer o ddydd i ddydd.  Roedd y meysydd lle

Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru 2011 – ‘Cefnogi Ymyriadau Effeithiol’ - 23ain o Fehefin 2011

Derbyniodd Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd Wobr Gofal Cymdeithasol yn y categori “Cefnogi ymyriadau effeithiol gyda phlant a theuluoedd.”  Cyflwynwyd y wobr anrhydeddus hon i Dafydd Paul ar ran Cyngor Gwynedd.  Wrth gyflwyno’r wobr, roedd y Dirprwy Weinidog Gwenda Thomas AC yn falch o longyfarch Cyngor Gwynedd ar ei waith, a mynegodd yr hoffai weld y gwaith hwnnw’n cael ei gyflwyno ledled Cymru.