Derbyniodd Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd Wobr Gofal Cymdeithasol yn y categori “Cefnogi ymyriadau effeithiol gyda phlant a theuluoedd.” Cyflwynwyd y wobr anrhydeddus hon i Dafydd Paul ar ran Cyngor Gwynedd. Wrth gyflwyno’r wobr, roedd y Dirprwy Weinidog Gwenda Thomas AC yn falch o longyfarch Cyngor Gwynedd ar ei waith, a mynegodd yr hoffai weld y gwaith hwnnw’n cael ei gyflwyno ledled Cymru.
Yn y seremoni yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, bu cynrychiolwyr o'r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd a Bruce Thornton yn dathlu’r wobr a oedd yn cydnabod y gwaith datblygu a chyflwyno. Roedd y tîm yn cynnwys Dafydd Paul, Nia Price a Bruce Thornton, gyda Heidi Rylance a Mel Panther (Rheolwyr Tîm), Sharron Carter (Uwch Reolwr) a Marian Parry Hughes, Pennaeth y Gwasanaeth, yn ymuno â nhw.
Mynegodd Dafydd Paul faint oedd y tîm yn gwerthfawrogi cefnogaeth Marian Parry Hughes i hybu arloesedd mewn ymarfer yn y maes heriol hwn.
Fel rhan o'r Gwobrau, trefnwyd cyfres o gynadleddau rhannu ymarfer yng Nghymru. Cyflwynwyd y Model Risg yn y ‘Digwyddiad Rhannu Ymarfer Gorau’ yng Ngogledd Cymru ar y 12fed o Hydref 2011 ac yng Nghaerdydd ar yr 20fed o Hydref 2012.