collage

Asesiad Risg Cyn-Geni (Cam 2)

Cyn geni - Asesiad risg Cam 2 i'w ddefnyddio mewn asesiadau cyn geni

  • Fersiwn o Cam 2 ydi'r asesiad hwn, i'w ddefnyddio wrth gynnal asesiadau cyn i blentyn gael ei eni.
  • Mae'r asesiad hwn yn cyflwyno'r heriau unigryw sydd ynghlwm wrth ragweld niwed, yn enwedig pan nad oes plant eraill yn y cartref.
  • Mae'n cynnwys teclynnau dadansoddi ychwanegol i gynorthwyo asesiadau cyn geni.

Mae Asesiad Risg Cyn Geni yn wahanol i’r Asesiad Risg Cam 2 arferol.  Er ei fod yn debyg o ran fformat a chynnwys, asesiad ydy hwn o’r effaith benodol mae’n debygol y bydd amodau’n eu cael ar blentyn yn y dyfodol – pan fydd wedi cael ei eni.  Gan nad ydy’r plentyn wedi cael ei eni eto, ac nad oes tystiolaeth ynglŷn â niwed yn y dyfodol, y nod ydy ceisio rhagweld y sefyllfa.   

Er enghraifft, wrth gymharu’r asesiad hwn â’r Asesiad Risg (Cam 2), mae’r farn broffesiynol am allu’r rhieni yn rhoi pwyslais ar y gallu i ddiwallu anghenion y plentyn, a’i amddiffyn rhag niwed, pan fydd wedi cael ei eni.  O ran anghenion y plentyn, mae’r asesiad yn holi i ba raddau mae anghenion y plentyn sydd heb ei eni yn cael eu diwallu ac/neu i ba raddau maent yn debygol o gael eu diwallu pan fydd wedi cael ei eni.  Mae’n bosibl y bydd cyfnod beichiogrwydd y fam yn cael ei reoli'n iawn, gyda’r bydwragedd yn cadw golwg ac yn rhoi cymorth, ond bod anghenion iechyd babi blaenorol wedi cael eu hesgeuluso.  Gallai camddefnyddio sylweddau ‘in utero’ fod yn enghraifft arall lle mae’r risg sy'n deillio o’r fam yn camddefnyddio sylweddau yn uwch o bosibl cyn i’r plentyn gael ei eni, a bod y risg yn lleihau wedyn.   

Mae Asesiad Risg Cyn Geni yn debyg iawn i’r Asesiad Risg Cam 2 o ran fformat.  Mae’n rhoi asesiad cynhwysfawr o sawl maes, a phan fydd popeth wedi cael ei ddadansoddi, bydd gennych sylfaen ar gyfer Asesiad Risg Cyn Geni.  Mae’r meysydd dan sylw’n cynnwys gwerthuso effaith gallu rhieni i ddiwallu anghenion plentyn yn y groth unwaith y bydd wedi cael ei eni yn erbyn y graddau mae anghenion y plentyn yn debygol o gael eu diwallu.  Bydd unrhyw niwed sy'n dod i’r amlwg yn cael ei gategoreiddio yn erbyn y diffiniad yn Neddf Plant 1989, cyn ystyried pa mor debygol ydy hi y bydd effeithiau niweidiol yn parhau.  Daw’r asesiad risg i ben gyda chrynodeb ‘Rheswm dros y penderfyniad’.  Gallai cwestiynau ychwanegol a allai helpu’r dadansoddi gynnwys:  

  • Ydy’r plentyn yn y groth yn ddiogel yng ngofal y rhieni/gofalwyr?
  • Fydd y babi newydd-anedig yn ddiogel yng ngofal y rhieni/gofalwyr?
  • Ydy hi’n realistig tybio y bydd y rhieni/gofalwyr hyn yn gallu cynnig gofal  
    digonol drwy gydol plentyndod y plentyn?

Mae’r Asesiad Risg Cyn Geni (Cam 2) wedi cael ei blethu'n rhan o sawl proses amddiffyn plant.  Er enghraifft, gellir ei ddefnyddio cyn cwblhau’r Adroddiad Gwaith Cymdeithasol i Gynhadledd Achos Gychwynnol.  Mae’r asesiad risg yn dod yn rhan o adroddiad gwaith cymdeithasol i Gynhadledd, gan orffen gyda’r adran ddadansoddi.  Mae wedi cael ei fabwysiadu'n ffurfiol gan rai Awdurdodau yn eu gweithdrefnau cyn geni amlasiantaethol. 

Mae’r atodiad “Asesu ffactorau risg cyn i blentyn gael ei eni” yn declyn ychwanegol y gellir ei ddefnyddio wrth gynnal Asesiad Risg Cyn Geni.  Mae’n dangos gallu rhieni drwy dynnu sylw at y ffactorau sy'n cynyddu neu'n gostwng risg i blant sydd heb gael eu geni eto.  Mae’r wybodaeth hon wedi’i strwythuro o amgylch saith o themâu gwahanol, gan gynnwys y rhiant sy'n cam-drin, y rhiant sydd ddim yn cam-drin a phroblemau teuluol.  Mae’n amlygu ffactorau sy’n awgrymu tebygolrwydd uwch neu is. Nid yw hyn yn cadarnhau unrhyw ddyfarniad ynghylch risg, ond mae’n tynnu sylw’r asesydd at rai o’r prif feysydd sy'n gysylltiedig â chanlyniadau gwael i blant a theuluoedd. 

Os oes meysydd pryder eraill arbenigol iawn yn codi yn yr Asesiad Risg Cyn Geni, mae teclynnau eraill ar gael.  Er enghraifft, gallu rhiant i newid, neu mewn achosion o esgeulustod, cyflwr gwrthrychol y cartref ac effaith hyn ar y plentyn.  Mae amrywiaeth o declynnau arbenigol eraill wedi cael eu rhestru o bob math o ffynonellau er mwyn gallu canolbwyntio ar feysydd arbenigol.  Mewn rhai enghreifftiau, mae teclynnau newydd wedi cael eu datblygu neu mae teclynnau sydd ar gael yn barod wedi cael eu haddasu neu'u diweddaru at ddefnydd ymarferol.  Gweler Teclynnau Asesu Arbenigol am ragor o wybodaeth.