collage

Cwestiynau Cyffredin

Ar lefel sefydliadol, mae'r Model Risg yn rhoi system rheoli risg i sefydliadau er mwyn eu helpu i wneud yn siŵr bod ymarfer ym maes Gwasanaethau Plant yn gyson a bod dull ffurfiol yn cael ei ddefnyddio i reoli risg.

Ar lefel achosion unigol, mae'r Model Risg yn declyn ymarfer sy'n helpu gweithwyr cymdeithasol i asesu'r trothwy sy'n dangos risg o niwed arwyddocaol. Y trothwy hwn sy'n gosod llawer o ddyletswyddau Awdurdodau Lleol ym maes amddiffyn plant ac mewn achosion gofal.

Mae'r Model Risg yn canolbwyntio ar asesu niwed a pha mor arwyddocaol ydy niwed. Mae'n cynnig fframwaith dadansoddi ar gyfer pwyso a mesur y wybodaeth sydd ar gael a gwneud penderfyniadau. Mae'n fodel cam wrth gam; mae'n cynnig cam sgrinio cychwynnol ac yna asesiad risg manwl pellach os oes angen. Pan fydd angen, mae teclynnau asesu arbenigol eraill ar gael hefyd.

Mae dau gam i'r model. Mae cam 1 yn ymwneud â sgrinio risg. Bydd sgrinio pob achos yn rheolaidd yn eich helpu i weld a oes yna unrhyw bryderon am niwed arwyddocaol yn yr achos ar y pryd. Yn aml iawn, gelwir hyn yn Risg 1. Mae llawer o Awdurdodau'n defnyddio Risg 1 wrth oruchwylio. Mae modd sgrinio pob achos, gan wneud yn siŵr nad oes dim yn cael ei golli.

Cam 2, neu Risg 2, ydy'r ail gam. Asesiad risg ffurfiol ydy hwn, i'w ddefnyddio ar achosion yn ôl yr angen.

Datblygwyd y Model Risg i helpu gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gyda gwaith achos. Gellir dweud mai'r sbardun ar gyfer hyn oll oedd cwestiwn gan ymarferydd a oedd angen cyflwyno asesiad risg i'r Llys. Bryd hynny, Fframwaith Asesu oedd yn cael ei ddefnyddio, gyda fformatau fel y ddogfen Asesiadau Craidd. Ar y pryd, doedd dim un o’r fformatau'n cael eu hystyried yn briodol gan y Llys er mwyn deall materion yn ymwneud â risg. Datblygwyd y Model Risg er mwyn cael fformat ar gyfer asesiadau risg mewn Gwasanaethau Plant.

Dyma un o'r penderfyniadau pwysicaf mewn Gwasanaethau Plant. Dyma'r trothwy niwed arwyddocaol sy'n penderfynu a oes gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd i ymyrryd, ynteu a ddylent barchu bywydau preifat teuluoedd.

Cafodd y Model Risg ei ddatblygu gan Wasanaethau Plant Gwynedd a Bruce Thornton o JBJ Training and Consultancy.

Cafodd y Model Risg ei ddatblygu gan Wasanaethau Plant Gwynedd. Mae'r Model wedi cael ei gyflwyno mewn mwy na 18 o Awdurdodau Lleol ledled Cymru a Lloegr. Mae hyn yn cynnwys 9 Awdurdod yng Nghymru a 9 yn Lloegr.

Mae hefyd wedi cael ei addasu i'w ddefnyddio ym maes Cyfraith Teulu ar gyfer CAFCASS Cymru ac i'w ddefnyddio mewn gwasanaethau ymyrraeth gynnar mewn Awdurdod trefol mawr yn Lloegr.

Mae'r Model Risg yn canolbwyntio ar rai o'r penderfyniadau mwyaf heriol mewn Gwasanaethau Plant yn y DU. Oherwydd hyn, mae'n bwysig ei fod yn cael ei roi ar waith yn ofalus a bod staff yn cael hyfforddiant ar sut i'w ddefnyddio.

Mae Bruce Thornton, a oedd yn gyfrifol am lunio'r Model Risg gyda Dafydd Paul, yn cynnig hyfforddiant ac yn rhoi cyngor i Awdurdodau ar eu cynlluniau i gyflwyno'r Model Risg. I gysylltu â Bruce Thornton, anfonwch e-bost at bruce.thornton@btinternet.com neu ewch i'w wefan yn www.bruce-thornton.info.

Cam 1 – Sgrinio Risg – Mae'r broses o sgrinio risg yn gofyn un cwestiwn byr. “Oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r tebygolrwydd o niwed arwyddocaol?”

Wrth gwrs, er mwyn ateb y cwestiwn hwn, mae gofyn bod y gweithiwr yn deall cysyniad 'niwed arwyddocaol' yn dda iawn. Bydd hyfforddiant yn cael ei roi er mwyn helpu gweithwyr i ddatblygu'r ddealltwriaeth hon, a chaiff yr hyfforddiant ei ategu gan ganllawiau fel yr Atodiad Niwed Arwyddocaol. Mae'r rhain yn cyfeirio at y Gyfraith Achosion sydd wedi datblygu i egluro'r diffiniad o niwed arwyddocaol.

Mae Cam 2 – Asesiad Risg (neu 'Risg 2') yn casglu gwybodaeth o sawl maes gwahanol. Mae'n casglu gwybodaeth am elfennau critigol asesu risg, sef:

  • Deall gallu’r rhieni/gofalwyr
  • Deall anghenion y plentyn
  • Asesu lefel y niwed
  • Categoreiddio'r niwed
  • Rhagweld y tebygolrwydd o niwed yn y dyfodol
  • Ystyried ydy niwed yn arwyddocaol ai peidio

Ar ôl casglu'r wybodaeth hon a'i hystyried, bydd modd dadansoddi'r wybodaeth a gwneud penderfyniadau.

Mae fersiwn arall o Asesiad Risg Cam 2 wedi cael ei llunio'n arbennig ar gyfer asesiadau cyn i blentyn gael ei eni. Mae ffocws yr asesiad yn wahanol gan ei fod yn ceisio rhagweld y tebygolrwydd o niwed arwyddocaol unwaith y bydd plentyn wedi cael ei eni. Mae ganddo Atodiad Cyn Geni arbennig hefyd i gefnogi'r asesiad.

Fel rhan o Cam 2 – Asesiad Risg, gofynnir i'r asesydd grynhoi ei farn broffesiynol mewn dau faes yn benodol: Oes gan y rhieni/gofalwyr y gallu i ddiwallu anghenion y plentyn a'i amddiffyn rhag niwed, ac i ba raddau mae anghenion y plentyn yn cael eu diwallu?

Yn y cwestiwn ynglŷn â diwallu anghenion y plentyn, defnyddir y term ‘angen critigol’. Dylid ystyried angen critigol (critical need) fel term yn ei hawl ei hun. Ni ddylid ei ddefnyddio fel yn eich iaith o ddydd i ddydd.

Y ffordd orau o benderfynu am ‘angen critigol’ ydy gofyn y cwestiwn: “Oes yna berygl gwirioneddol – bygythiad i fywyd a diogelwch (life and limb) - rhywbeth sy'n ddigon difrifol i achosi niwed arwyddocaol i'r plentyn yn y tymor byr neu yn y tymor hir – os na fydd angen yn cael ei ddiwallu? Byddai'r farn yma'n amlwg, ac y tu hwnt i bob amheuaeth gan unrhyw berson rhesymol.

Yn y Model Risg, ni ddylid trin ‘angen critigol’ yn yr un ffordd ag y mae'n cael ei ddefnyddio mewn iaith gyffredin. Fyddai rhywun ddim yn gofyn ydy hi'n ‘gritigol’ bod plentyn yn mynd i'r ysgol neu ydy hi'n ‘gritigol’ ei fod yn gweld y deintydd. Byddai'r gymdeithas yn disgwyl i blant gael y pethau pwysig hyn. Mae'n ddigon posibl bod hwn yn angen heb ei ddiwallu, ond nid yw’n ‘angen critigol’ yng nghyd-destun Risg 2.

Fel term, meddyliwch am angen critigol yn yr un ffordd â niwed arwyddocaol, yn gysyniad cyfreithiol.

Mae'r Model Risg wedi cael ei ddatblygu o ymarfer rheng flaen, nid o ymchwil academaidd.

Fframwaith ymarfer ydy'r Model Risg, a'i fwriad ydy cefnogi ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae wedi cael ei ddatblygu o waith ymchwil ym maes ymarfer, ac yn seiliedig ar sut mae'r diffiniad o amrywiol elfennau o niwed ac arwyddocâd yn cael eu diffinio drwy Gyfraith Achosion.

Mae'r asesiad yn casglu gwybodaeth ac yn dadansoddi'r dystiolaeth; mae'n strwythuro hyn drwy ddadansoddi prosesau penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae asesiadau ym maes Gwasanaethau Plant yn seiliedig ar asesiadau holistaidd o anghenion gofal a chefnogaeth. Fodd bynnag, mae'r pryderon yn aml yn benodol iawn. Er enghraifft, mewn asesiadau, gan gynnwys asesiadau risg, efallai y bydd angen deall gallu rhiant i newid neu fynd ati'n wrthrychol i asesu cyflwr y cartref mewn achosion o esgeuluso.

Gall teclynnau arbenigol ein helpu i roi ffocws ar y meysydd hyn. Mae'r rhain wedi'u rhestru yn y Model Risg ac wedi cael eu clystyru yn unol â themâu, fel Camddefnyddio Sylweddau neu Drais Domestig. Mae dros 30 o declynnau wedi cael eu plethu i mewn i'r Model Risg, amryw ohonynt ar gael yn eang, fel teclynnau Cyflwr y Cartref, Proffil Gofal wedi'i Raddio a Chryfderau a Gwendidau. Mae rhai eraill wedi cael eu datblygu'n arbennig, gan gynnwys tri theclyn Gallu Rhieni i Newid, Asesiad Gofalwyr ifanc a'r Rhestr Wirio Gwytnwch.

Cyngor Gwynedd a Bruce Thornton sydd wedi datblygu'r Model Risg. Mae Cyngor Gwynedd am weld gwaith arloesol ym maes Gwasanaethau Plant yn cael ei rannu.

Mae'r Model Risg yn helpu gweithwyr i wneud penderfyniadau yn y meysydd anoddaf mewn gwaith cymdeithasol. Mae'n rhaid i ymarferwyr wybod sut mae ei ddefnyddio i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddefnyddio'n iawn. Er mwyn sicrhau nad ydy'r Model Risg yn cael ei gamddefnyddio ac nad oes neb yn ei danseilio, mae'n cael ei reoli drwy JBT Training and Consultancy, a fydd yn gallu cynnig yr hyfforddiant a'r cymorth priodol i chi.

Felly i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddefnyddio’n briodol, ystyrir bod hawlfraint ar ddefnydd o'r Model Risg©.

Mae'n rhaid i sefydliadau, ymgynghorwyr neu hyfforddwyr sy'n awyddus i gael gafael ar y deunyddiau neu'u defnyddio mewn unrhyw ffordd ofyn am ganiatâd ysgrifenedig. Mae'n rhaid i sefydliadau wneud yn siŵr eu bod yn gyfarwydd â'r egwyddorion sy'n sail i'r Model Risg a'u bod yn gofalu ei gyflwyno mewn ffordd gywir a dilys.

Mae'r sefydliadau sydd wedi cyflwyno'r Model Risg yn llwyddiannus wedi defnyddio rhai o'r gwasanaethau sydd ar gael. Maent hefyd wedi buddsoddi i ddatblygu gallu mewnol i wneud yn siŵr bod y manteision yn cael eu gwireddu'n llawn gan y sefydliad, a bod yr holl broses yn gynaliadwy.

Mae manteision defnyddio'r Model Risg yn cynnwys:

  • Yn ôl gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr, mae mwy o eglurder a hyder mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
  • Mae gweithwyr cymdeithasol yn dweud bod ganddynt fwy o hygrededd mewn cyfarfodydd amlasiantaethol ac yn y Llysoedd.
  • Yn ôl Uwch Reolwyr, mae'r prosesau gwneud penderfyniadau'n well ac yn fwy cyson ar draws y sefydliad.
  • Roedd Uwch Reolwyr yn cael tawelwch meddwl bod risg o niwed arwyddocaol yn cael ei asesu'n rheolaidd ac fel mater o drefn, a bod dull cam-wrth-gam o reoli risg yn cael ei ddefnyddio.
  • Mae Byrddau Diogelu wedi cefnogi hyfforddiant gyda'i gilydd, ac yn sgil hyn mae asiantaethau eraill wedi dechrau defnyddio'r teclynnau. Mae hyn wedi gwella asesiadau (gan gynnwys y Fframwaith Asesu Cyffredin), wedi gwella'r broses o gyfeirio achosion at dimau Gofal Cymdeithasol Plant, ac wedi egluro a chadarnhau trothwyon ar draws asiantaethau.
  • Mae Uwch Reolwyr yn teimlo bod gwell hygrededd cyhoeddus a rheoleiddiol i'w gwasanaeth.
  • Mae Cadeiryddion Cynadleddau Amddiffyn Plant wedi gweld gwelliannau yn safon yr asesiadau risg.

“Mae ein Gwasanaethau Plant yn defnyddio'r model risg fel rhan o set o declynnau asesu. Mae wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer asesiadau diogelu a gwaith llys. Yn ôl gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr, mae ganddynt fwy o ffydd mewn prosesau gwneud penderfyniadau, ac maent yn fwy cyson hefyd. Mae hefyd yn ffordd safonol o gofnodi'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer asesiadau, sy'n dda o beth yng ngolwg rheolwyr ac asiantaethau eraill.”

Pennaeth Cymorth Diogelu, Cyngor Dinas Lerpwl.

“Mae'r Model Risg yn ein helpu i wneud yn siŵr bod strwythur i'n penderfyniadau am drothwyon. Mae'n cefnogi ymarfer rheng flaen – mae gweithwyr cymdeithasol yn dweud bod ganddynt fwy o ffydd a hyder yn y penderfyniadau maent yn eu gwneud drwy ddefnyddio’u barn broffesiynol. Mae sefydlu hyn yn dal yn her. Mae plethu Risg 1 yn rhan o brosesau eraill – goruchwyliaeth yn enwedig – wedi gwneud byd o wahaniaeth. Mae'r model yn rhoi hwb i ddiogelu plant unigol, ac yn rhoi'r sicrwydd i mi fod y risg o niwed arwyddocaol yn cael ei reoli ar draws y gwasanaeth i gyd.”

Pennaeth Gwasanaethau Plant, Cyngor Gwynedd.

“Yn ôl swyddogion diogelu sy'n cadeirio Cynadleddau Amddiffyn Plant, pan mae’r teclyn asesu risg newydd hwn yn cael ei ddefnyddio, mae ansawdd y gwaith yn dda, a'r risgiau'n cael eu nodi'n glir.”

Ofsted 2011