collage

Teclynnau Asesu Arbenigol

Teclynnau eraill – teclynnau asesu arbenigol i ganolbwyntio ar feysydd penodol sy'n destun pryder

  • Mae’r Model Risg yn cynnwys amrywiaeth o declynnau sydd ar gael i gynorthwyo gweithwyr yn ystod yr asesiad os bydd angen, er enghraifft, teclynnau sy'n ymwneud â phryder am esgeulustod neu allu rhiant i newid.
  • Mae teclynnau asesu arbenigol wedi’u cynnwys o fewn y Model Risg, ond gellir eu defnyddio hefyd mewn asesiadau mwy cyffredinol, fel yr Asesiad o Anghenion Gofal a Chefnogaeth.

Mae cyferbyniad o fewn y Fframwaith Asesu a phrotocolau asesu eraill. Mae’n seiliedig ar egwyddor asesu holistaidd, sy'n cynnwys casglu a dehongli gwybodaeth mewn sawl maes.  Er enghraifft, roedd y Fframwaith Asesu yn cynnwys: 

  • anghenion datblygu plentyn
  • gallu rhieni
  • ffactorau teuluol ac amgylcheddol.  

Ar yr un pryd, mae angen archwilio themâu penodol iawn ar gyfer llawer o'r pryderon sy’n cael eu cyfeirio.  Er enghraifft, camddefnyddio sylweddau, trais domestig neu esgeulustod.  Mae casglu gwybodaeth benodol yn y meysydd hyn yn waith arbenigol iawn.  Yn ystod y broses asesu, mae’n bosibl y bydd angen i weithwyr ystyried esgeulustod fel thema, a phenderfynu a oes gan y rhieni y gallu i newid.  Bydd gweithwyr yn holi: 

“Sut mae adnabod esgeulustod? Sut mae asesu hyn yn fanwl a chynnwys y canlyniadau yn y dadansoddiad?”  

“Sut mae asesu a oes gan y rhiant y gallu i ddal ati i wneud y newidiadau sydd eu hangen i wneud yn siŵr bod y plant yn ddiogel?” 

Mae’r Teclynnau Asesu Arbenigol yn rhoi fformat i gynorthwyo’r broses asesu.  

Fe wnaethom edrych yn fanwl ar ymchwil, gwerthuso’r teclynnau asesu oedd ar gael yn barod, a dod o hyd i feysydd lle'r oedd cymorth ar gyfer asesu’n wan. Os oedd teclynnau asesu ar gael, cawsant eu diweddaru a’u haddasu. Os nad oedd teclynnau asesu ar gael, datblygwyd rhai newydd.  

O blith y 30 o Declynnau Asesu Arbenigol sydd ar gael, mae enghreifftiau'n cynnwys gwytnwch a bregusrwydd, newid, camddefnyddio sylweddau ac effaith iechyd meddwl.   

Mae'r teclynnau'n cael eu rhannu yn ôl themâu, gan gynnwys:  

  • Cymhelliant/gallu i newid
  • Esgeulustod a Chyflwr y Cartref
  • Camddefnyddio Sylweddau – y rhiant/rhieni a’r plentyn neu’r person ifanc
  • Cam-drin Domestig
  • Gofalwr Ifanc
  • Ymlyniad a pherthynas â’r teulu
  • Iechyd meddwl rhiant/gofalwr
  • Gwytnwch a lles emosiynol – plentyn/person ifanc

Mae teclynnau eraill yn canolbwyntio ar geisio rhagweld sefyllfaoedd yn y dyfodol.  Mae’r rhain yn cynnwys:

Teuluoedd yn dod yn ôl at ei gilydd ar ôl achos o gam-drin plentyn yn rhywiol, Adsefydlu ar ôl achos o gam-drin plentyn, Nodweddion plentyn a theulu a allai wynebu sefyllfa o gam-drin, Lefel y gamdriniaeth fel dangosydd ar gyfer yr angen i ddiogelu. 

Mae’r ddogfen “Help i ddod o hyd i’r teclyn iawn” yn trefnu’r teclynnau yn ôl rhannau o’r Fframwaith Asesu neu themâu asesu.