collage

Sgrinio Risg (Cam 1)

Sgrinio risg (Cam 1) - sgrinio risg pob achos yn rheolaidd am bryderon ynghylch niwed arwyddocaol

  • Mae’r cwestiwn sgrinio’n syml iawn.  “Oes gennych chi unrhyw bryderon sy’n awgrymu risg o niwed arwyddocaol?”
  • Gall sgrinio fod yn rhan o sawl proses, gan gynnwys prosesau goruchwylio achosion.  Mae sgrinio'n rhoi cyfle i adolygu bob achos yn rheolaidd.

Cam cyntaf y Model Risg ydy mynd ati’n rheolaidd i sgrinio achosion i weld a oes unrhyw bryderon am niwed arwyddocaol.  Mae wedi cael ei blethu'n rhan o sawl proses, gan gynnwys prosesau goruchwylio achosion.  Mae sgrinio'n rhoi cyfle i edrych yn ofalus ar achosion, ac i ofyn a oes unrhyw bryderon am niwed arwyddocaol ar yr union adeg honno.  Os oes pryderon, mae’n rhoi’r gallu i wneud penderfyniad ynghylch a oes angen cynnal ymchwiliadau pellach.  Gallai camau pellach gynnwys symud ymlaen at Asesiad Risg (Cam 2). 

Mae sgrinio'n broses syml, a gellir ei gwneud yn rheolaidd.   

Pan fydd gweithiwr yn cael ei oruchwylio, mae’n gyfle da i wirio ei lwyth achosion i gyd.  Drwy wneud hyn, gellir gwneud yn siŵr bod pob achos yn cael ei sgrinio’n rheolaidd, nid dim ond yr achosion risg uchel y mae rhywun yn tueddu i’w blaenoriaethu.  Bydd hyn hefyd yn sicrhau nad ydy mân bryderon sydd wedi bod yn pigo ers tro yn mynd yn angof.   

Mewn Adolygiadau Statudol, mae’n sicrhau nad ydy plant mewn gofal yn wynebu risg o niwed arwyddocaol yn eu lleoliad.  

Mae’r cwestiwn sgrinio’n syml iawn.  “Oes gennych chi unrhyw bryderon sy'n awgrymu risg o niwed arwyddocaol?”

Bydd canlyniad y broses sgrinio risg yn cael ei gofnodi.  Bydd rhai Awdurdodau'n cofnodi achosion o sgrinio ar wahân yng nghofnod achos y plentyn, tra bydd rhai eraill yn mabwysiadu cofnod o’r holl weithgarwch sgrinio gwaith achos sy’n cael ei wneud.  

Yn aml iawn, bydd angen hysbysiad o bryder neu ddigwyddiad nodedig er mwyn gallu rhoi gweithdrefnau amddiffyn plant ar waith a mynd ag achos yn ei flaen.  Pan fydd achosion yn cael eu cyfeirio o’r tu allan, bydd y wybodaeth yn cael ei hystyried, ac felly hefyd y risg o niwed arwyddocaol.  Os nad oes rhywbeth difrifol yn digwydd neu os nad oes arwydd arall bod rhywbeth o'i le, mae’n ddigon hawdd derbyn pryderon dros amser a bodloni arnynt.  Mae sgrinio risg yn gwneud yn siŵr nad ydy hyn yn digwydd.       

Sgrinio risg ydy elfen bwysicaf y Model Risg.  Fodd bynnag, yn aml iawn, ni fydd pobl yn llawn sylweddoli pa mor syml a phwysig ydyw o’i gymharu â fformat mwy cynhwysfawr Asesiad Risg Cam 2.