Gwahoddwyd Dafydd Paul o Wasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd i roi cyflwyniad i gynhadledd genedlaethol y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Penaethiaid Gwasanaethau Plant yng Nghymru. Ei thema oedd adroddiad terfynol Munro a’r cyfeiriadau at ‘egwyddorion risg’, ynghyd â her Munro ynglŷn â sut dylid dod i farn ynghylch gweithwyr cymdeithasol. Yn ôl Munro, dylai gweithwyr cymdeithasol gael eu barnu nid yn ôl canlyniadau eu penderfyniadau ond yn ôl ansawdd a chysondeb y penderfyniadau. Yr her yn sgil hyn i Awdurdodau Lleol oedd sut oedd gwneud yn siŵr bod penderfyniadau da a chyson yn cael eu gwneud. Gofynnwyd i Dafydd gyflwyno gwybodaeth am y Model Risg ac am y Teclynnau Asesu gan fod sawl Awdurdod Lleol yng Nghymru yn buddsoddi yn y Model Risg neu'n ystyried ei ddefnyddio. Cafodd y cyflwyniad dderbyniad gwresog iawn. Roedd y gynhadledd yn gyfle i bawb drafod manteision y Model nid yn unig gyda Dafydd ond gyda chydweithwyr hefyd, gan fod llawer o’r Awdurdodau oedd yn bresennol wedi cael profiad o ddefnyddio’r Model.