Gwahoddwyd Dafydd Paul o Wasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd i Manceinion i roi cyflwyniad yng nghynhadledd genedlaethol yr NSPCC ar amddiffyn plant. Teitl y cyflwyniad oedd ‘Y Model Risg: System arloesol ac ymarferol i asesu’r risg o niwed arwyddocaol.’ Roedd thema’r cyflwyniad yn adleisio’r cyflwyniad diweddar ar gyfer BASPCAN ac yn ymdrin â’r diffyg cyswllt rhwng gofynion statudol a’r realiti o ymarfer yn y rheng flaen ym maes amddiffyn plant. Cyflwynwyd y Model Risg fel dull pontio ymarferol. Ymunodd Bruce Thornton o JBT Training and Development â Dafydd ar gyfer y gweithdy oedd yn rhan o’r gynhadledd.