Yng Ngwobrau Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW) 2013, cafodd Dafydd Paul o Gyngor Gwynedd ei gydnabod mewn seremoni am ei waith arloesol ym maes amddiffyn plant, a hynny ar lefel Cymru gyfan. Cafodd gydnabyddiaeth am ei waith yn datblygu’r Model Risg, a derbyniodd y Wobr ‘Gwaith Cymdeithasol Arloesol’ yng Ngwobrau Gwaith Cymdeithasol Cymru BASW 2013.
Cafodd y model, sydd wedi cael ei gyflwyno mewn nifer o Gynghorau eraill ledled Cymru a Lloegr ym maes Gwasanaethau Plant a Chyfraith Teulu, ei gydnabod yn y categori ‘Gwaith Cymdeithasol Arloesol’.
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Williams, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ofal:
“Llongyfarchiadau fil i Dafydd am ennill y wobr hon, a hynny’n gwbl haeddiannol. Mae’r wobr genedlaethol hon yn cydnabod y gwaith arloesol sydd eisoes wedi bod o fudd i blant yma yng Ngwynedd, ac sydd wedi cael ei fabwysiadu gan gynghorau ar hyd a lled Cymru a Lloegr.”
Dywedodd Dafydd Paul fod cael ei gydnabod gan gydweithwyr proffesiynol, academyddion ac ymchwilwyr yn glod i Wasanaethau Plant Gwynedd i gyd. Dywedodd: “Mae gwneud penderfyniadau ym maes amddiffyn plant yn gymhleth. Un o'r heriau sy'n wynebu arweinwyr ydy sut mae cefnogi staff rheng flaen yn eu gwaith yn y meysydd anodd hyn. Roedd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar wneud penderfyniadau gwell a rhai mwy cyson ym maes amddiffyn plant. Dyma un o'r prif themâu sy'n codi yn Adroddiad Munro, sydd wedi sbarduno cryn ddiddordeb ymhlith cynghorau eraill yng Nghymru a Lloegr. Dros flynyddoedd lawer, rydw i wedi cael cefnogaeth rheolwyr ym maes iechyd meddwl ac amddiffyn plant i arloesi ac i ddatblygu modelau i helpu ymarferwyr yn y rheng flaen. Mae’r Wobr yn adlewyrchu eu hagwedd nhw at arweinyddiaeth broffesiynol yn rhai o’r meysydd anoddaf mewn gwasanaethau cyhoeddus.”
Mae’r cynllun hwn, a enillodd y wobr genedlaethol, yn helpu gweithwyr cymdeithasol i wneud penderfyniadau mwy cyson sy'n seiliedig ar dystiolaeth ym maes amddiffyn plant.
Dafydd yn derbyn ei wobr gan John Wicks, Rheolwr Gyfarwyddwr Cansford Laboratories, noddwr y wobr, a Dr Lolita Tsanaclis, Cyfarwyddwr Gwyddonol.