Digwyddiad Dysgu a Chefnogaeth Cymheiriaid, Caerdydd- 9fed o Hydref 2019

Ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu trefnu cynhadledd genedlaethol i drafod ei gweledigaeth ar gyfer lleihau niferoedd y plant sydd mewn gofal yng Nghymru, gofynnwyd i Dafydd Paul roi cyflwyniad ar y gwaith y mae Gwynedd wedi’i wneud yn ddiweddar ar Amddiffyn Plant yn Effeithiol.   

Mae model Amddiffyn Plant yn Effeithiol Gwynedd yn cynnwys pedair elfen. Yn gyntaf, rhoddir pwyslais ar sut mae sgyrsiau am newid yn cael eu cynnal gyda theuluoedd. Mae hyn yn seiliedig ar ddull cenedlaethol o weithio yng Nghymru, sef Sgyrsiau Cydweithredol. Mae’n debyg o ran egwyddor i ‘Gyfweld Ysgogiadol’, sef techneg sy'n ceisio osgoi ymatebion amddiffynnol neu agweddau sy'n gwrthwynebu newid. Mae’r drydydd a’r bedwaredd elfen yn ymwneud â chanolbwyntio ar newid mewn prosesau amddiffyn plant a mesur cynnydd. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Amddiffyn Plant yn Effeithiol, ewch i’r wefan.  

Mae’r ail elfen yn ymwneud â’r Model Risg. Mae’r prosiect newydd yn dangos sut mae profi trothwyon, a gwneud penderfyniadau da a chyson, yn hollbwysig er mwyn amddiffyn plant yn effeithiol. O ran Gwynedd, roedd cynnal ei fuddsoddiad yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno’r Model Risg yn dal yn ganolog i waith y Gwasanaethau Plant. 

Roedd y Gynhadledd genedlaethol yn gyfle gwych i gael blas ar waith Awdurdod Castell-nedd Port Talbot ar ymarfer sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac i wrando ar gyflwyniadau gan IPC ar rieni gydag anableddau dysgu.  Rhoddwyd y prif gyflwyniad gan Gyngor Glasgow, a hynny ar ei waith i leihau niferoedd y plant sy'n derbyn gofal. 

Cyflwynodd Dafydd sesiwn gweithdy o’r enw ‘Rheoli Risg yn Gadarnhaol ac Amddiffyn Plant yn Effeithiol’.  Cyflwynodd dair thema bwysig.  Yn gyntaf, gwaith Gwynedd ers 2012 ar Leihau Niferoedd Plant Mewn Gofal, ac yna gwaith ar y prosiectau Model Risg ac Amddiffyn Plant yn Effeithiol. Tynnodd Dafydd sylw at y grym sy'n cael ei roi yn nwylo gweithwyr cymdeithasol, a sut mae’n effeithio ar hawl teulu i breifatrwydd. Roedd penderfyniadau am y trothwy niwed arwyddocaol yn hollbwysig o ran dyletswyddau gweithwyr cymdeithasol i ymyrryd neu beidio. Cyflwynodd Dafydd rôl y Model Risg wrth egluro a chadarnhau'r penderfyniadau hyn am hawliau dynol. 

Sbardunodd y sesiwn gwestiynau diddorol iawn.  Roedd gan bobl ddiddordeb mewn cyflwyno’r model ar draws y continwwm o angen, ac yn fwy cyffredinol mewn gwasanaethau oedolion. Gofynnwyd sut mae cadw ffocws ar roi’r Model Risg ar waith dros gyfnod o 10 mlynedd.  Tynnodd Dafydd sylw at y tebygrwydd rhwng y ffocws sydd ei angen i roi modelau ar waith ar lefel sefydliadol a’r ffocws ar newid sydd ei angen mewn Cynadleddau Achos gyda theuluoedd.     

Cafodd ei holi gan Awdurdodau Lleol eraill hefyd a oedd wedi datblygu ffyrdd effeithiol o ymdrin â maes amddiffyn plant ond yn brin o brosesau i sicrhau ansawdd a chysondeb wrth wneud penderfyniadau am niwed arwyddocaol. 

Rhannwyd papurau briffio a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y Model Risg ac am Amddiffyn Plant yn Effeithiol.  Yn fwy na dim, roedd yn gyfle i rannu gwybodaeth am ein gwaith ac i godi ei broffil yn genedlaethol. 

caerdydd