Gwahoddwyd Dafydd Paul o Wasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd i ddeuddegfed Cyngres Genedlaethol BASPCAN ym Melfast, Gogledd Iwerddon. Roedd y Gyngres yn dwyn ynghyd ymchwil ac ymarfer mewn amddiffyn plant cyfoes, ac yn cynnwys cyfranwyr o'r Deyrnas Unedig ac o Iwerddon. Roedd cyflwyniad Dafydd yn ymwneud â gwaith Gwynedd ar y Model Risg. Wrth gyflwyno’r Model, tynnodd Dafydd sylw at y diffyg cysylltiad rhwng y disgwyliadau ar ymarferwyr a’r hyn y gellir ei gyflawni mewn gwirionedd mewn ymarfer o ddydd i ddydd. Roedd y meysydd lle’r oedd angen fframweithiau, teclynnau ac atebion i fynd i’r afael â hyn yn cynnwys maes asesu’r trothwy niwed arwyddocaol. Nodwyd y diffyg ymarfer cefnogol i asesu’r trothwy pwysig hwn ar draws y DU, gyda Dafydd yn esbonio sut cafodd y model ei ddatblygu, beth oedd ei nod a beth oedd y gwersi a ddysgwyd wrth ei roi ar waith. Ymunodd Bruce Thornton â Dafydd ar gyfer y sesiwn holi a thrafod ar y diwedd.
Rhannodd Dafydd ei gyflwyniad yng Nghynhadledd BASPCAN yng Nghymru hefyd, sef ‘Cyngres BASPCAN – Rhoi rhywbeth yn ôl i Gymru’, a gynhaliwyd ar y 12fed o Fedi 2012.