collage

Hafan

Fframwaith ar gyfer asesu’r risg o niwed arwyddocaol mewn Gwasanaethau Cymdeithasol Plant statudol

Fe’i datblygwyd i helpu gweithwyr cymdeithasol i asesu’r trothwy ar gyfer ymyrryd yn statudol ym mywydau preifat teuluoedd.  Mae wedi cael ei gyflwyno mewn amryw o Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Lloegr ac wedi cael ei ddatblygu a’i addasu ymhellach i’w ddefnyddio mewn meysydd fel cyfraith teulu a gwasanaethau ymyrraeth gynnar.

Gwasanaethau Plant Cyngor Gwynedd sydd wedi bod yn gyfrifol am greu'r Model Risg, ar y cyd â Bruce Thornton, a derbyniodd wobr gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2011 am y gwaith.

Mae gan y Model Risg rôl bwysig iawn i’w chwarae mewn ymarfer gwaith cymdeithasol ym maes amddiffyn plant.  Mae’n canolbwyntio ar sut mae’r penderfyniadau pwysicaf yn cael eu gwneud ym maes Gofal Cymdeithasol Plant – penderfyniadau sy'n sail i ddyletswydd statudol graidd Gofal Cymdeithasol Plant.  Y ‘risg o niwed arwyddocaol’ ydy’r trothwy cyfreithiol ar gyfer ymyrraeth statudol gan Wasanaethau Plant, a fframwaith ar gyfer asesu hyn ydy’r Model Risg.

Un o brif egwyddorion amddiffyn plant ydy bod angen i’r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud fod yn rhai da a chyson, ac mae’r Model Risg yn cynnig fframwaith sy'n helpu ymarferwyr i sicrhau hyn.

Mae’r wefan hon wedi’i hanelu at ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sydd â diddordeb mewn amddiffyn plant.  Mae’n rhoi gwybodaeth am ddatblygiad y Model Risg ac yn dangos yn gyffredinol sut mae’n cael ei ddefnyddio o ddydd i ddydd.